Rydym wedi cyhoeddi llythyr yn crynhoi canfyddiadau ein gwiriad gwelliant awdurdodau lleol ar Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys
Cynhaliwyd y gwiriad gwelliant rhwng 9 a 13 Mai 2022.
Gwnaethom gynnal y gwiriad gwelliant hwn i adolygu’r cynnydd a wnaed gan Gyngor Sir Powys mewn perthynas â’r meysydd i’w gwella a nodwyd gennym yn ystod ein harolygiad ym mis Medi 2020.
Yn ystod y gwiriad gwelliant, canfuom fod cynnydd wedi'i wneud mewn sawl maes sydd wedi arwain at ddatblygiadau i arferion a chanlyniadau gwell i bobl. Cyflawnwyd y cynnydd hwn ar ben y pwysau a’r heriau a osodwyd gan bandemig COVID-19.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.
Llythyr gwirio gwelliant awdurdod lleol: Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys