Rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau ein harolygiad gwerthuso perfformiad o wasanaethau oedolion a phlant Cyngor Sir Penfro
Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng 28 Mawrth ac 8 Ebrill 2022.
Gwnaethom gynnal yr arolygiad hwn er mwyn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth arfer ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau parthed gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.
Crynodeb o'r canfyddiadau
- Mae Cyngor Sir Penfro wedi profi amgylchiadau heriol ym maes gofal cymdeithasol, fel awdurdodau lleol eraill ledled Cymru.
- Gwelsom y gall yr awdurdod lleol ymateb i anghenion ac argyfyngau diogelu uniongyrchol, ond mae oedi a llithro yn amlwg mewn rhai sefyllfaoedd, ac yn effeithio ar ganlyniadau pobl.
- Gwelsom rai enghreifftiau rhagorol o ymgysylltiad rhwng staff a phobl sy’n byw mewn amgylchiadau cymhleth. Fodd bynnag, mae oedi o ran asesiadau ac adolygiadau yn peri pryder sylweddol i reolwyr gwasanaethau oedolion.
- Er bod enghreifftiau gweithredol rhagorol o wasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, nid oes partneriaeth effeithiol ar waith bob amser er mwyn comisiynu a darparu canlyniadau cwbl integredig, cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer grwpiau penodol o oedolion.
- Mae'r awdurdod lleol yn wynebu her sylweddol i sicrhau digonolrwydd lleoliadau da sy’n cyfateb i anghenion plant sy’n derbyn gofal.
- Mae ymarferwyr gwasanaethau plant yn deall eu rôl a'u cyfrifoldebau o ran cyfrannu at ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, ond mae swyddi gweigion a llwyth gwaith yn effeithio ar eu gallu i gyflawni hyn.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, ewch i dudalen yr adroddiad isod:
Adroddiad arolygiad gwerthuso perfformiad: Cyngor Sir Penfro