Gall darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant gyflwyno eu datganiadau blynyddol o 1 Awst 2022 ymlaen
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch datganiad yw diwedd mis Hydref.
Bydd yn ofynnol i unigolion cyfrifol gwasanaethau y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol gyflwyno datganiadau blynyddol byr ar gyfer pob un o'r cyfnodau canlynol, 2018-19, 2019-20, 2020-21, a 2021-22, yn dibynnu ar y flwyddyn gofrestru.
Gwnaethom ysgrifennu at y darparwyr ynghylch hyn ym mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror eleni.
Er mwyn helpu i leddfu’r baich ar ddarparwr, rydym wedi ceisio gwneud y broses hon mor syml â phosibl drwy ddefnyddio AGC Ar-lein a rhag-boblogi llawer iawn o’r wybodaeth sy'n ofynnol.
Rydym hefyd wedi ymestyn y cyfnod cyflwyno i dri mis er mwyn rhoi mwy o amser i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno'r datganiadau blynyddol i ni.
Pwy all gyflwyno'r datganiad blynyddol?
Dim ond yr unigolyn/ unigolion cyfrifol neu swyddog(ion) y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr all gael mynediad at eu datganiad blynyddol, ei gwblhau a'i gyflwyno.
Ni all cynorthwywyr ar-lein gwblhau na chyflwyno'r datganiad blynyddol.
Os ydych yn unigolyn cyfrifol neu'n swyddog sefydliad a heb actifadu eich cyfrif ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.
Beth sy'n digwydd i'r datganiad blynyddol ar ôl iddo gael ei gyflwyno?
Bydd pob datganiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.
Cymorth ac arweiniad
Rydym wrthi’n datblygu fideo byr yn dangos sut i gyflwyno’r datganiadau blynyddol, a bydd canllawiau ysgrifenedig ar gyfer darparwyr y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a fydd ar gael ddechrau mis Gorffennaf.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau byr ar-lein ddiwedd mis Gorffennaf er mwyn arwain y darparwyr drwy’r broses ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Cwestiynau?
Anfonwch neges e-bost at agc@llyw.cymru.