Rydym yn newid sut rydym yn gofyn am wybodaeth gan ddarparwyr drwy AGC Ar-lein
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus gyda darparwyr tua diwedd 2021, byddwn yn troi nodwedd negeseuon uniongyrchol newydd ymlaen ar gyfer pob darparwr o 8 Mehefin.
Mae'r nodwedd newydd wedi'i datblygu i'w gwneud yn gyflymach, yn haws ac yn fwy diogel i ddarparwyr anfon dogfennau atom.
Beth sy'n newydd?
O 8 Mehefin, bydd y nodwedd ddiogel newydd yn disodli'r defnydd o e-bost pan fyddwn yn gofyn am ddogfennau gan eich gwasanaeth. Bydd y ceisiadau hyn yn ymddangos yn uniongyrchol yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Bydd pob unigolyn cyfrifol/person cofrestredig yn derbyn rhybudd e-bost yn ei annog i fewngofnodi i'w gyfrif AGC Ar-lein pan fydd cais am ddogfen wedi'i wneud.
Pam rydym wedi gwneud y newid hwn
Mae’r angen i wneud cais am ddogfennau’n gyflym ac yn hawdd, olrhain y ceisiadau hynny, darparu amserlenni pendant ar gyfer ymateb, cadw dogfennau’n ddiogel a chadw’r dogfennau hynny am yr amser gofynnol yn unig, yn hollbwysig i AGC o ystyried natur sensitif yr wybodaeth sydd ei hangen i'n helpu ni yn ein gwaith.