Croesawyd saith aelod newydd i'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Mae'r Bwrdd yn rhoi llais i bobl ynglŷn â'r ffordd yr ydym yn gwneud ein gwaith.
Roedd Ruth Hussey OBE, cadeirydd ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol, yn falch o groesawu’r aelodau newydd i’r Bwrdd: Órlaith Brennan, Stuart Davies, Rachel Harris, Carole Jones, Bethan Louise Kay, Peter Max a Julia Nawell.
Mae’r Bwrdd yn cynorthwyo ein gwaith drwy roi cyngor ac argymhellion ar sut y gallwn wella gofal a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i bobl, trwy waith rheoleiddio, arolygu ac adolygu gwell.
Bydd rhagor o fanylion am aelodaeth y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan maes o law.