Heddiw rydym yn lansio ein Offeryn Delweddu Data AGC newydd
Mae'r offeryn delweddu data rhyngweithiol newydd hwn yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau a lleoedd a reoleiddir gennym.
Mae'r offeryn yn darparu gwybodaeth hawdd ei chyrchu ar nifer y gwasanaethau a lleoedd ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref a gwasanaethau gofal plant a chwarae ledled Cymru.
Data arall sydd ar gael
Gellir defnyddio'r offeryn mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys:
- dod o hyd i wybodaeth ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- gweithgarwch gorfodi ledled Cymru;
- rhestr chwiliadwy o wasanaethau;
- manylu ar ardaloedd unigol neu luosog i ddeall lledaeniad daearyddol gwasanaethau ledled Cymru;
- defnyddio gwybodaeth gymharol i gael mewnwelediad ledled ardaloedd a mathau o wasanaethau; a
- chwilio am wasanaeth, math o wasanaeth neu ardal benodol i ddarparu rhestr o wasanaethau/ardaloedd o ddiddordeb.
Am fwy o wybodaeth ac i gael tro ar yr offeryn data, cliciwch ar y ddolen isod.