Heddiw, rydym wedi cyhoeddi llythyr yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro ym mis Tachwedd 2021 a gynhaliwyd yng ngwasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych
Bwriad gweithgarwch monitro yw rhoi sicrwydd bod yr awdurdod lleol yn parhau ar daith gadarnhaol o welliant.
Ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom gynnal arolygiad o wasanaethau plant Cyngor Sir Ddinbych. Gwnaed hyn i geisio sicrwydd bod gwelliannau’n cael eu gwneud, yn dilyn Archwiliad Sicrwydd a gynhaliwyd rhwng 28 Mehefin a 02 Gorffennaf 2021, lle codwyd pryderon difrifol am rai agweddau ar y gwasanaethau plant.
Roedd tystiolaeth o gynnydd yn amlwg, ond mae cyflymder y cynnydd hwn wedi cael ei rwystro gan yr heriau sylweddol y mae'r awdurdod lleol wedi'u hwynebu o ran recriwtio i'w adran Gwasanaethau Cymdeithasol, gan adlewyrchu'r heriau cenedlaethol ehangach o recriwtio i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol at ein canfyddiadau. Byddwn yn monitro cynnydd drwy weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.