Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Ionawr 2022
  • Newyddion

Rydym yn dathlu 20 mlynedd. Helpwch ni i ddathlu!

Eisteddfod 2022 - Helpwch ni i ddathlu!

I nodi ein pen-blwydd, rydym am ddathlu bod yn arolygiaeth gofal CYMRAEG trwy gynnal ein Heisteddfod fach ein hunain a hoffem wahodd darparwyr i ymuno â ni.

Mae hyn yn enwedig o addas gan fod heddiw hefyd yn nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru'n cael ei sefydlu er mwyn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddysgu a chymdeithasu yn Gymraeg.  A hwnnw’n 100 mlwydd oed, mae wedi bod yma tipyn yn fwy na ni!

Cynhaliwch eich Eisteddfod eich hun

Byddem wir yn ei werthfawrogi’n pe gallai cartrefi gofal a darparwyr gofal plant ein helpu drwy gynnal eich Eisteddfod eich hun i ddathlu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, a rhannu eich cais buddugol neu gollage o’ch cynigion gyda ni (gall y rhain fod yn Gymraeg neu yn Saesneg).

Gobeithiwn y byddwch yn gwahodd y bobl sy’n defnyddio eich gwasanaeth i gymryd rhan drwy wneud un (neu bob un!) o’r canlynol:

  • Tynnu llun o rhywbeth/rhywle sy'n symboleiddio Cymru ichi – a dywedwch pam wrthym.
  • Tynnu llun neu baentio llun o rywbeth sy'n symboleiddio Cymru ichi – a dywedwch pam wrthym.
  • Ysgrifennu stori neu gerdd am yr hyn y mae Cymru yn ei olygu ichi.

Ein nod yw arddangos gymaint o'r ceisiadau â phosibl ar ein gwefan fel rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 20 oed.

Y dyddiad cau yw 1 Mawrth 2022 a dylid anfon ceisiadau dros yr e-bost at AGCCyfathrebu@llyw.cymru wedi'u nodi ‘Eisteddfod’.

Preifatrwydd a chaniatadau

Sicrhewch fod gennych y caniatâd cywir i rannu eich gweithiau celf gyda ni. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.