Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 17 Tachwedd 2021
  • Newyddion

Cystadleuaeth cerdyn a cherdd Nadolig 2021

A ydych wedi cofrestru fel darparwr gyda ni? Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig!

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig digidol, a hoffem wahodd ein darparwyr cofrestredig i gyd i anfon unrhyw ddarluniau, gwaith celf neu gerddi atom sydd wedi'u creu gan bobl neu blant sy'n defnyddio'u gwasanaeth, ar thema'r Nadolig.

Rydym wedi cysylltu â phob darparwr cofrestredig yn uniongyrchol dros e-bost i'w gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni.  Anfonwch ffotograff neu sgan o'ch gwaith celf neu'ch cerdd i agc.cyfathrebu@llyw.cymru, erbyn dydd Mercher 1 Rhagfyr. Plis atodwch enw cyntaf y person, ei oedran, ynghyd ag enw eich gwasanaeth gyda phob darlun neu waith celf.

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cerdd, gwnewch yn siŵr nad yw'r nifer geiriau yn fwy na 100 geiriau. Trwy osod terfyn bydd hyn yn caniatáu i'r gerdd fuddugol ffitio'n braf ar y cerdyn Nadolig ochr yn ochr â'r delweddau.

Cynlluniau buddugol

Bydd ceisiadau buddugol yn cael eu dewis a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu dros e-bost eu bod wedi ennill. Bydd y gwaith celf a'r gerdd yn ymddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol swyddogol ar gyfer 2021, a fydd yn cael ei anfon at holl danysgrifwyr ein cylchlythyr, ac yn cael ei arddangos ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ein dilyn ar Twitter a Facebook.

Preifatrwydd a chaniatâd

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd unrhyw bartneriaid, gwarcheidwaid neu ofalwyr perthnasol er mwyn anfon y gweithiau celf neu'r cerddi i'r gystadleuaeth. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch agc.cyfathrebu@llyw.cymru