Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 4 Tachwedd 2021
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol o Archwiliadau Sicrwydd

Gwnaethom edrych ar berfformiad ac adolygu gweithgareddau ar draws awdurdodau lleol Cymru rhwng mis Medi 2020 a mis Gorffennaf 2021.

Yr hyn a wnaethom

Ym mis Mawrth 2020, wrth i gyfraddau heintio COVID-19 gynyddu a Chymru fynd i mewn i'r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, gwnaethom atal ein rhaglen o weithgarwch adolygu perfformiad arferol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio'n llawn ar ymateb i'r amgylchiadau heriol.

Gwnaethom ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a oedd yn adlewyrchu'r angen i ni ymgysylltu mewn cydberthnasau mwy cefnogol ag awdurdodau lleol. Ar draws gweithgareddau ein gwiriadau sicrwydd, gwnaethom siarad â dros 800 o bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol neu gyda nhw, neu sydd â phrofiad o'r gwasanaethau hynny.

Ar gyfer plant a phobl ifanc dan ofal yr awdurdod lleol, gwnaethom ofyn cwestiynau i bob awdurdod lleol am blant mewn gofal.

Gellir gweld ein canfyddiadau a'r adroddiad llawn trwy'r ddolen isod.