Rydym wedi cyhoeddi ein Hadolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021 cynhaliwyd arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ar y cyd ag (HMICFRS) Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub eu Mawrhydi (Dolen allanol), (AGIC) Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol), Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (Dolen allanol) ac Estyn (Dolen allanol), roedd yr arolygiad hwn yn cynnwys gwerthusiad o'r modd yr oedd gwasanaethau lleol yn ymateb i achosion o gam-fanteisio ar blant.
Gellir gweld ein canfyddiadau am effeithiolrwydd gwaith partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yng Nghastell-nedd Port Talbot ar dudalen yr adroddiad.