Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 19 Awst 2021
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ein Prif Arolygydd ar gyfer 2020-2021

Mae ein hadroddiad yn amlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn a'n canfyddiadau.

Mae ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at effaith y pandemig ar y sector gofal, gan gydnabod a thalu teyrnged i'r gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru am ei ymroddiad i ofalu am bobl mewn amgylchiadau hynod anodd a heriol.

Hefyd, mae'r adroddiad yn pwysleisio'r newidiadau a gyflwynwyd gennym, gan addasu prosesau arolygu er mwyn parhau i ddarparu sicrwydd ar ansawdd y gofal yng Nghymru, wrth ddiogelu pobl drwy leihau nifer yr ymweliadau â safleoedd darparwyr.

Yn bwysig, mae hefyd yn cynnwys ein canfyddiadau a'n hadfyfyrdodau allweddol o'n gwaith yn ystod y pandemig.

Wrth gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol dywedodd ein Prif Arolygydd, Gillian Baranski:

Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn un anodd a heriol iawn, ond mae hefyd wedi bod yn gyfnod o ysbrydoliaeth ac yn gyfle i fyfyrio ar wersi a dysgu ohonynt. Rwyf am gydnabod a thalu teyrnged i bawb sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yng Nghymru am eu hymroddiad i ofalu am bobl, a'u gwaith caled wrth fynd i'r afael â'r heriau niferus a wynebwyd ganddynt. Mae eu dewrder, arloesedd a gwydnwch wedi bod yn anhygoel.’