Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Gorffennaf 2021
  • Newyddion

Mae’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2021 bellach yn fyw

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.

Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr i roi gwybod iddynt fod y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach yn fyw (7 Gorffennaf 2021).

Mae'r Datganiad yn ffurflen ar-lein y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth gwasanaeth. 

Mae'r SASS yn darparu gwybodaeth hanfodol a ddefnyddiwn i gynllunio ein harolygiadau, ac yn ein helpu i gynghori Llywodraeth Cymru am gyflwr y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru
Nid ydym yn cynhyrchu copi papur o ffurflen y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth mwyach, felly bydd angen cyfrif AGC Ar-lein (Dolen allanol) er mwyn cwblhau'r Datganiad.

Os oes gennych gyfrif AGC Ar-lein eisoes gallwch fewngofnodi, cwblhau a chyflwyno eich Datganiad o heddiw, 7 Gorffennaf 2021. 

Os nad ydych wedi creu cyfrif AGC Ar-lein eto, mae angen i chi weithredu ar frys.

Cwblhewch a cyflwynwch eich Datganiad erbyn 4 Awst 2021.