Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 17 Mawrth 2021
  • Newyddion

Llythyr agored gan ein Prif Arolygydd mewn ymateb i'r cwêst yng Nghartref Gofal Brithdir

Daeth y cwest i ben a rhyddhawyd dyfarniad 16 Mawrth 2021.

Ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru, hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf â theuluoedd Mr Stanley Bradford, Mrs Edith Evans, Mrs June Hamer, Mr William Hickman, Mr Stanley James a Mrs Evelyn Jones yn eu profedigaeth. Mae gwrando eto ar y digwyddiadau yng Nghartref Gofal Brithdir ac amgylchiadau trasig marwolaethau eu hanwyliaid, wedi peri gofid a thristwch mawr i mi.

Gwn nad oes dim a all wneud iawn am y golled y maent wedi'i dioddef, ond gobeithio bod y cwêst wedi rhoi'r penderfyniad a'r atebion y maent yn eu haeddu.

Rwy'n cydnabod ac yn derbyn canfyddiadau'r Crwner yn y cwestau. Hoffwn roi sicrwydd i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal heddiw bod y gyfraith wedi cael ei newid o ganlyniad uniongyrchol i'r digwyddiadau trasig hyn er mwyn rhoi mwy o bŵer i ni weithredu'n gyflym a chymryd camau cadarn pan fo angen.

Mae diogelwch a llesiant y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal wrth wraidd popeth a wnawn, ac ansawdd gofal yw ein prif flaenoriaeth. Ni fyddwn yn goddef gofal gwael a byddwn yn cymryd camau i amddiffyn pobl pan fo angen.

Gillian Baranski, Prif Arolygydd, AGC.

Os bydd gennych bryder penodol am ddiogelwch ac ansawdd gwasanaeth gofal yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen we neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 opsiwn 2.