Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Mawrth 2021
  • Newyddion

Cyngor i ddarparwyr ar ymweliadau â chartrefi gofal

Rydym wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar ymweliadau â chartrefi gofal er mwyn sicrhau bod darparwyr yn glir ynghylch ein safbwynt fel yr arolygiaeth.

Neilltuwch amser i ddarllen ein datganiad llawn isod, oherwydd gall lywio eich meddylfryd wrth hwyluso ymweliadau. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymweliadau (Dolen allanol) yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r cyhoeddiad hwn, a chânt eu hadolygu wrth i amgylchiadau newid.