Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Mawrth 2021
  • Newyddion

Datganiad ar y cyd ag AGIC: Pwysigrwydd codi llais

Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar bwysigrwydd codi llais er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Mae codi llais yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel a dylai fod yn rhan arferol o waith pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ni waeth beth fo'i rôl. Rydym yn galw ar bob aelod o staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i barhau i "godi llais" am y gofal rhagorol sy'n cael ei roi, ond hefyd am unrhyw ofal nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol.

Mae'r fersiwn lawn o’r datganiad ar y cyd ar gael isod, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i roi gwybod am unrhyw beth sy'n peri pryder i chi.

Ewch i'n tudalen pryderon i gael rhagor o wybodaeth.