Datganiad ar y cyd rhwng AGC ac Estyn mewn perthynas â lleoliadau gofal plant nas cynhelir
Cyhoeddom ddatganiad ar y cyd yn ystod tymor yr hydref, yn amlinellu na fyddwn yn cynnal arolygiadau ar y cyd tan o leiaf ddiwedd mis Mawrth 2021. Nodom y byddem yn adolygu’r sefyllfa yn ystod tymor y gwanwyn.
Gyda’i gilydd, mae AGC ac Estyn wedi penderfynu y bydd yr ataliad presennol ar arolygiadau ar y cyd yn parhau tan o leiaf 31 Awst 2021. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa eto yn ystod tymor yr haf ac yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ailddechrau’r rhaglen arolygu ar y cyd yn y dyfodol. Amcanwn i roi rhybudd o 6 wythnos o leiaf i’r sector cyn ailddechrau’r arolygiadau ar y cyd arferol.
Yn ystod tymor yr haf, byddwn yn cysylltu ag ystod o randdeiliaid i werthuso p’un a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r fframwaith arolygu ar y cyd a’n trefniadau yn sgil y pandemig.