Dweud eich dweud am y rheoliadau graddau arolygu
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eich barn ar reoliadau drafft sy'n darparu ar gyfer system o raddau arolygu a gyhoeddir ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref o fis Ebrill 2025 ymlaen.
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 yn cynnwys gofynion i ddarparwyr gwasanaethau gyhoeddi eu graddau arolygu ar eu gwefannau a'u harddangos yn lle mae gwasanaethau'n cael eu darparu (gyda rhai eithriadau). Mae'r rheoliadau hefyd yn cynnwys manylion y weithdrefn apelio, troseddau, a hysbysiadau cosb.
Bydd yr ymgynghoriad yn agor ddydd Llun 29 Gorffennaf, ac yn cau am hanner nos ddydd Llun 14 Hydref 2024. Mae'r ddogfen ymgynghori, y ffurflen ymateb a fersiynau hawdd eu deall o'r dogfennau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.