Mae hi'n Wythnos Ddiogelu Genedlaethol (16-20 Tachwedd)
Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth ynglŷn â diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.
Mae diogelu yn fusnes pawb ac mae gan bob un rhan i'w chwarae.
Mae'n rhywbeth sy’n ddifrifol iawn yn ein barn ni fel arolygiaeth ac sy’n llywio ein gwaith.
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, sy'n arwain ar waith diogelu, ac os ydym ni'n derbyn pryderon, rydym yn eu cyfeirio at y tîm diogelu fel y bo'n briodol.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn ag unrhyw un sy'n derbyn gofal neu'n defnyddio gwasanaethau gofal yng Nghymru, ffoniwch ni ar 0300 7900 126, anfonwch e-bost at agc@llyw.cymru neu cyflwyno eich pryder drwy ein ffurflen ar y we.