Datganiad ar y cyd rhwng AGC ac Estyn mewn perthynas â lleoliadau gofal plant nas cynhelir
Atal arolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn.
Gwnaethom gyhoeddi datganiad ar y cyd ar ddiwedd tymor yr haf yn nodi na fyddem yn cynnal arolygiadau ar y cyd yn ystod tymor yr hydref. Gwnaethom nodi y byddem yn adolygu'r sefyllfa yn ystod tymor yr hydref.
Gyda'i gilydd, mae AGC ac Estyn wedi penderfynu na chynhelir arolygiadau ar y cyd tan 31 Mawrth 2021 o leiaf. Byddwn yn adolygu'r sefyllfa eto yn ystod y gwanwyn ac yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ailddechrau'r rhaglen arolygu ar y cyd yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu rhoi o leiaf chwe wythnos o rybudd i'r sector cyn ailddechrau arolygiadau ar y cyd yn rheolaidd.
Gobeithio eich bod chi, eich plant, eich staff a'ch cymuned yn aros yn ddiogel ac yn iach.