Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Tachwedd 2020
  • Newyddion

Cystadleuaeth cerdyn a cherdd Nadolig 2020

A ydych wedi cofrestru fel darparwr gyda ni? Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig!

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig digidol, a hoffem wahodd ein darparwyr cofrestredig i gyd i anfon unrhyw ddarluniau, gwaith celf neu gerddi atom sydd wedi'u creu gan bobl neu blant sy'n defnyddio'u gwasanaeth, ar thema'r Nadolig.

Thema eleni yw 'dweud diolch adeg y Nadolig'  - adlewyrchiad o 2020.

Rydym wedi cysylltu â phob darparwr cofrestredig yn uniongyrchol dros e-bost i'w gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni.  Anfonwch ffotograff neu sgan o'ch gwaith celf neu'ch cerdd i agc.cyfathrebu@llyw.cymru, erbyn dydd Mawrth 1 Rhagfyr

Cynlluniau buddugol

Bydd un llun buddugol ac un gerdd fuddugol yn cael eu dewis a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu dros e-bost eu bod wedi ennill. Bydd y gwaith celf a'r gerdd yn ymddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol swyddogol ar gyfer 2020, a fydd yn cael ei anfon at holl danysgrifwyr ein cylchlythyr, ac yn cael ei arddangos ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ein dilyn ar Twitter a Facebook.

Preifatrwydd a chaniatâd

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd unrhyw bartneriaid, gwarcheidwaid neu ofalwyr perthnasol er mwyn anfon y gweithiau celf neu'r cerddi i'r gystadleuaeth. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ciwcomms@gov.wales