Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 29 Hydref 2020
  • Newyddion

Nid oes angen trefniadau monitro uwch yng ngwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Powys mwyach

Rydym wedi cyhoeddi llythyr am ganlyniadau ein gwaith, yn dilyn ein cynhadledd wella ar 9 Hydref 2020.

Cefndir

Yn ystod arolygiad ym mis Gorffennaf 2017, nodwyd methiannau difrifol a sylweddol yng ngwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ac fe’i gosodwyd o dan drefniadau monitro uwch.

Ers hynny, rydym wedi ymgymryd â naw darn o weithgarwch monitro yn yr awdurdod lleol, arolygiad dilynol o wasanaethau plant ym mis Hydref 2018 ac adolygiad sicrwydd dros dro o wasanaethau oedolion ym mis Mawrth 2020.

Yn fwyaf diweddar, gwnaethom gynnal arolygiad gwerthuso perfformiad ym mis Medi 2020 a gwelsom fod yr awdurdod lleol wedi gwneud cynnydd sylweddol yn gyffredinol ers ein harolygiadau diwethaf.

Roedd aelodau etholedig ac uwch-swyddogion gwasanaethau cymdeithasol Powys yn bresennol yn y gynhadledd, er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn deall yn llwyr ein pryderon am berfformiad ac er mwyn galluogi'r awdurdod lleol i ddangos lle mae gwelliannau wedi cael eu gwneud.

Canfyddiadau

O ystyried y wybodaeth a gasglwyd gan ein gwaith dros y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys siarad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau ac ymgysylltu â'n partneriaid, daethom i'r casgliad bod Cyngor Sir Powys wedi gwneud cynnydd sylweddol ac nad oedd angen trefniadau monitro mwyach.

Ceir rhagor o wybodaeth am ganlyniadau'r gwaith hwn isod.