Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 12 Hydref 2020
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng nghyngor Caerdydd

Ym mis Tachwedd 2020 byddwn yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol cyngor Caerdydd, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer plant anabl a phlant sydd wedi cael profiad o ofal.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan gyngor Caerdydd, neu os ydych yn rhiant neu'n ofalwr plentyn anabl, hoffem glywed am eich profiadau gyda gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau gofal fel gofal plant.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r naill arolwg neu'r llall isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 4 Rhagfyr 2020.

Caiff ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn eu cyhoeddi ar ein gwefan.

I gael rhagor o  wybodaeth am ein rhaglen arolygu, darllenwch yr eitem newyddion hon.