Heddiw, rydym wedi cyhoeddi dau gyd-adroddiad adolygu cenedlaethol
Cafodd y gwaith ar gyfer yr adroddiadau hyn ei gwblhau yn gynharach eleni, ond gohiriwyd y cyhoeddiad yn sgil pandemig COVID-19.
Ystyriodd ein hadolygiad o gartrefi gofal i bobl sy'n byw gyda dementia y gofal a gafodd pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal yng Nghymru a sut y cawsant eu cefnogi yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu bywydau.
Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at arferion cadarnhaol a meysydd y mae angen eu gwella o hyd. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried profiadau pobl hŷn hyd at yr adeg pan fo angen iddynt symud i gartref gofal.
Mae ein hadolygiad cenedlaethol o atal a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion hŷn yn canolbwyntio ar y cyfnod cynharach ym mywydau pobl hŷn yng Nghymru ac yn nodi nifer o ganfyddiadau tebyg a meysydd i'w gwella er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd yn cyfrannu at wella profiadau a chanlyniadau i bobl sydd angen cymorth.
Darllenwch y dudalen berthnasol a nodir isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion ar gyfer pob adroddiad.