Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 12 Awst 2020
  • Newyddion

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2018-19

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), rydym wedi cyhoeddi'r degfed adroddiad blynyddol ar ddefnyddio'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru.

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal, lle y gall cyfyngiadau neu dechnegau cyfyngu eu hamddifadu o'u rhyddid.

Datblygwyd y trefniadau er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu a'u cynnal, a bod y gofal a gânt er eu budd pennaf ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf gyfyngol.

Canfyddiadau

Cafwyd cynnydd o 6% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau a gafwyd gan awdurdodau lleol yn 2018-19, gyda'r rhan fwyaf o geisiadau DoLS a gafwyd ar gyfer unigolion 65 oed neu'n hŷn.

Roedd y mwyafrif helaeth o geisiadau a wrthodwyd ar sail galluedd meddyliol. Roedd angen rhagor o dystiolaeth ar yr awdurdodydd nad oedd gan yr unigolyn y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad dan sylw cyn i'r cais DoLS gael ei dderbyn.

Ni chwblhawyd y rhan fwyaf o geisiadau Safonol mewn 28 diwrnod. Ni all cyrff goruchwylio sicrhau eu hunain nad eir yn groes i hawliau dynol pobl pan gânt eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghyfreithlon.

Darllenwch yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.