Datganiad ar y cyd rhwng AGC ac Estyn mewn perthynas â lleoliadau gofal plant nas cynhelir
Cynorthwyo eich sector ar ôl atal gweithgareddau arolygu oherwydd COVID-19.
Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr a heriol. Mae COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar ofal plant, addysg a hyfforddiant. Mae ailagor darpariaeth i bob un o’ch plant yn debygol o gymryd amser.
Ni fyddwn yn cynnal arolygiadau ar y cyd yn rhy fuan, a dim ond pan fydd yn ddiogel ac yn briodol gwneud hynny. Gyda’i gilydd, mae AGC ac Estyn wedi penderfynu y bydd arolygiadau ar y cyd o leoliadau nas cynhelir yn parhau i gael eu hatal tan o leiaf 31 Rhagfyr 2020. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn yr hydref ac yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ailddechrau’r rhaglen arolygu ar y cyd yn y dyfodol. Ein nod fydd rhoi o leiaf 6 wythnos o rybudd i’r sector cyn ailddechrau arolygiadau arferol ar y cyd.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y ddwy arolygiaeth yn gwneud trefniadau ar wahân i gysylltu â sampl o leoliadau, ond byddwn yn rhannu gwybodaeth berthnasol o’r gweithgareddau ymgysylltu hyn, yn ôl yr angen. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar ddiogelwch, lles ac ymgysylltu â dysgu, fel y bo’n briodol.
Rydym yn gobeithio y byddwch chi, eich plant, eich staff a’ch cymuned yn cadw’n ddiogel ac yn iach.