Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Mehefin 2020
  • Newyddion

Newidiadau i reoliadau ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd a darparwyr gofal

Mae rheoliadau newydd ar waith er mwyn helpu'r sector gofal mewn ymateb i COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau deddfwriaethol dros dro i gefnogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd, darparwyr cymorth cartref a chartrefi gofal i oedolion mewn ymateb i bwysau a heriau argyfwng presennol COVID-19.

Daeth y rheoliadau hyn – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 – i rym ar 5 Mehefin. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ychwanegol. Mae'r rhain yn nodi manylion pellach am sut y gall darparwyr gydymffurfio â'r rheoliadau.

Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:

Ceir gwybodaeth bellach am hyn a chwestiynau cyffredin eraill ar gyfer darparwyr gofal a staff gofal ledled Cymru ar ein tudalen ar y coronafeirws (COVID-19) a'n tudalen ar ddeddfwriaeth.

  1. Eithrio cartrefi gofal i oedolion neu wasanaethau cymorth cartref brys a sefydlwyd mewn ymateb i COVID-19 rhag cofrestru ag AGC. Rhaid rhoi gwybod i AGC cyn gwneud y trefniadau er mwyn sicrhau bod yr eithriad yn ddilys. Rhaid i unrhyw ddarparwr sydd am ddarparu'r gwasanaethau hyn ddefnyddio'r ffurflen hysbysu a'i chyflwyno i ciwregistration@gov.wales cyn dechrau darparu'r gwasanaeth.
  2. Llacio gofynion ar ddarparwyr i gynnal gwiriadau cyn cyflogi ar gyflogeion ym maes gofal preswyl a gofal cartref er mwyn helpu i gyflymu'r broses o recriwtio staff a gwirfoddolwyr ychwanegol yn ystod y pandemig. Er bod y rheoliadau hyn yn llacio rhai o'r gofynion presennol ar ddarparwyr mewn perthynas â gwiriadau cyn cyflogi, mae'n rhaid i ddarparwyr fodloni eu hunain bod y person y maent yn bwriadu ei gyflogi yn addas ac yn briodol ar gyfer y rôl fel y'i nodwyd yn Rheoliad 35 o Reoliadau 2017, er gwaethaf cymhwyso'r mesurau llacio hyn.
  3. Bydd llacio'r trothwy presennol o 15% ar gyfer rhannu ystafelloedd yn galluogi darparwyr gwasanaethau sydd ag ystafelloedd gwag neu ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd gwely ar hyn o bryd i gynyddu'r uchafswm niferoedd yn y cartref, lle y bo angen gwneud hyn o ganlyniad i bandemig COVID-19. Dim ond gyda chytundeb AGC y gellir gwneud hyn (fel amrywiad ar wasanaeth presennol). Byddwn yn ystyried pob cais am amrywiad ar sail achos unigol, gan ystyried buddiannau pennaf yr holl breswylwyr.

Ceir gwybodaeth bellach am hyn a chwestiynau cyffredin eraill ar gyfer darparwyr gofal a staff gofal ledled Cymru ar ein tudalen ar y coronafeirws (COVID-19) a'n tudalen ar ddeddfwriaeth.