Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 28 Ebrill 2020
  • Newyddion

Rydym yma i'ch helpu drwy'r cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen

Rydym yn parhau i helpu darparwyr cofrestredig, prosesu cofrestriadau newydd a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a allai fod gan bobl am ddiogelwch ac ansawdd gofal.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan gynnwys y bobl sy'n derbyn gofal a chymorth a'u teuluoedd; gofalwyr sy'n deulu a darparwyr cofrestredig. Rydym am helpu i fynd i'r afael â'r materion, yr ymholiadau a'r pryderon lle bynnag y gallwn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dylech barhau i gysylltu â ni. Hoffem glywed am yr hyn sy'n mynd yn dda a'r hyn sy'n peri pryder i chi.

Hoffem ddiolch i staff a gofalwyr gofal cymdeithasol a gofal plant am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen.

Y ffordd orau o gysylltu â ni ar hyn o bryd yw drwy e-bost – agc@llyw.cymru. Bydd aelod o'n tîm o staff gofal cwsmeriaid penodedig yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Os na allwch anfon e-bost atom, gallwch ein ffonio ar 0300 7900 126.