Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Ebrill 2020
  • Newyddion

Datganiad ar y cyd ag AGIC: Cynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru.

Mae cynllunio gofal ymlaen llaw wedi'i bersonoli bob amser wedi bod yn ffactor hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn cael gofal ag urddas o safon uchel; yn enwedig i bobl sydd â chyflyrau difrifol a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a phobl hŷn a all fod yn fregus. Mae hyn yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19.

Gellir gweld y datganiad ar y cyd llawn isod ac mae'n cynnwys sawl dogfen canllaw a pholisïau i helpu staff ac ymarferwyr sy'n cynllunio gofal ymlaen llaw.