Coronafeirws (COVID-19): Ein dull o ymdrin â cheisiadau Cofrestru ac Amrywio
Er mwyn parhau â'n gwaith cofrestru, rydym wedi addasu rhai o'n prosesau.
Rydym yn cydnabod y bydd angen cynyddu capasiti yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae mewn ymateb i argyfwng COVID-19. Er ein bod wedi gohirio ein trefn arolygu arferol, byddwn yn blaenoriaethu gwaith cofrestru ac amrywio ac yn dargyfeirio adnoddau ychwanegol iddo. Bydd y timau cofrestru yn blaenoriaethu meysydd gwaith yn y drefn a amlinellir isod:
- Yr holl waith cofrestru ac amrywio sy'n cefnogi darparwyr i ddarparu gwasanaethau o ganlyniad i COVID-19.
- Yr holl waith cofrestru ac amrywio a fydd yn dod â chapasiti ychwanegol i'r sector.
- Cofrestru gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestriad.
- Cofrestriadau neu amrywiadau risg uchel, er enghraifft, yn ymwneud â phrynu gwasanaethau sydd yn nwylo gweinyddwyr.
- Yr holl waith cofrestru ac amrywio arall.
Ymweliadau safle
Ni ddylid cynnal ymweliadau safle oni fydd hynny'n gwbl angenrheidiol ac os nad oes unrhyw ffordd arall o asesu addasrwydd y safle.
Gwiriadau DBS
Byddwn yn mabwysiadu dulliau amgen o wirio manylion adnabod o bell, er enghraifft drwy Skype.
Cyfweliadau
Byddwn yn cwrdd ag ymgeiswyr ac Unigolion Cyfrifol o bell, gan gynnwys cynnal cyfweliadau cofrestru.
Byddwn yn gweithredu mewn ffordd ymarferol a chymesur er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau newydd, ychwanegol neu arloesol i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt o ganlyniad i COVID-19.