Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Mawrth 2020
  • Newyddion

Cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a threfniadau trosglwyddo ar gyfer plant anabl: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant anabl yng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gwnaethom gynnal arolygiad â chymorth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol) ac ystyried sut y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu cymorth, gofal a help cynnar ac yn sicrhau bod cyfnod pontio plant anabl a'u teuluoedd yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.

Gall cyfnod pontio yn y cyd-destun hwn olygu symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol, o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion neu o un cyfnod addysg i'r nesaf.

Mae'r arolygiad yn nodi ymarfer sy'n ysgogi canlyniadau da i blant yn ogystal â meysydd i'w gwella a rhwystrau i gynnydd.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – daethom i'r casgliad bod y rheolwyr a'r ymarferwyr yn hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at blant anabl, gan sicrhau y cânt eu trin fel plant yn gyntaf bob amser a'u bod yn cyflawni canlyniadau da

Pobl: llais a dewis – daethom i'r casgliad bod yr ymarferwyr yn meithrin cydberthnasau ystyrlon ac ymddiriedus â phlant anabl a'u teuluoedd. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu â phlant anabl.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – daethom i'r casgliad bod yr ymarferwyr yn cydweithio'n dda â'i gilydd a bod y dulliau cydleoli staff o ddisgyblaethau gwahanol yn helpu plant anabl a'u teuluoedd i gael eu hatgyfeirio'n well at wasanaethau priodol.

Atal ac ymyrraeth gynnar – daethom i'r casgliad bod yr uwch-reolwyr yn ymwybodol bod ymyrryd yn gynnar yn allweddol i leihau'r angen am wasanaethau statudol. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo cryfderau a gwydnwch pobl yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Meysydd i'w gwella

Llesiant - rydym yn argymell bod rhaid i'r rheolwyr a'r ymarferwyr sicrhau bod sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig' yn cael eu hymgorffori'n llawn mewn ymarfer, a bod y canlyniadau personol penodol y mae pobl am eu cyflawni bob amser yn cael eu nodi a'u cofnodi. Dylid gwella ansawdd yr asesiadau a'r cynlluniau gofal a chymorth er mwyn sicrhau eu bod o ansawdd dda yn gyson.

Pobl – llais a dewis – daethom i'r casgliad y bydd datblygiad System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn ei gwneud hi'n ofynnol i reolwyr ac ymarferwyr sicrhau bod llais a safbwyntiau plant anabl a'u rhieni, yn ogystal â'r canlyniadau personol y maent am eu cyflawni, yn cael eu nodi'n gyson mewn asesiadau a chynlluniau gofal a chymorth.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – daethom i'r casgliad bod angen i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ddatblygu eu proses gomisiynu ar y cyd er mwyn sicrhau ei bod yn ddigonol i ddiwallu anghenion plant anabl sydd ag anghenion cymhleth..

Y camau nesaf

Mae AGC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.