Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 6 Mawrth 2020
  • Newyddion

Cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a threfniadau trosglwyddo ar gyfer plant anabl: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant anabl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Gwnaethom gynnal arolygiad â chymorth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol) ac ystyried sut y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu cymorth, gofal a help cynnar ac yn sicrhau bod cyfnod pontio plant anabl a'u teuluoedd yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.

Gall cyfnod pontio yn y cyd-destun hwn olygu symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion mewn gofal cymdeithasol, o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion neu o un cyfnod addysg i'r nesaf.

Mae'r arolygiad yn nodi ymarfer sy'n ysgogi canlyniadau da i blant yn ogystal â meysydd i'w gwella a rhwystrau i gynnydd.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – gwelsom fod gweledigaeth gref ar gyfer ailfodelu gwasanaethau i blant anabl. Mae ymateb effeithiol a gwell wrth 'ddrws ffrynt' gwasanaethau plant.

Pobl – llais a dewis – gwelsom fod y staff yn gadarnhaol ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan gydweithwyr a rheolwyr.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn datblygu gwasanaeth llesiant emosiynol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Atal ac ymyrraeth gynnar – daethom i'r casgliad bod dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd a bwriad i wella cydraddoldeb o ran mynediad i blant anabl.

Meysydd i'w gwella

Llesiant – rydym yn argymell y dylid canolbwyntio'n fwy ar gryfderau teuluoedd, nodi canlyniadau personol a sicrhau gwell ymarfer mewn perthynas â chynnal asesiadau o ofalwyr sy'n rhieni.

Pobl – llais a dewis – gwnaethom nodi bod angen hyrwyddo llais y plentyn yn fwy ym mhob agwedd ar wasanaethau i blant anabl, gan gynnwys eiriolaeth.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – rydym yn argymell y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf barhau i ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyflawni dull gweithredu mwy strategol er budd dinasyddion.

Atal ac ymyrraeth gynnar – gwnaethom nodi bod angen datblygu dulliau gwahanol o ddarparu seibiannau byr.

Y camau nesaf

Mae AGC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.