Sicrhewch fod eich gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio - cyfle olaf i gyflwyno'ch SASS
Bydd y porth ar-lein ar gyfer cwblhau'r Datganiad yn ailagor ar 24 Chwefror tan 9 Mawrth.
Rydym wedi ysgrifennu at y darparwyr gofal plant a chwarae hynny nad ydynt wedi cyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eto.
Os ydych yn darparu gwasanaeth gofal plant a chwarae ac nad ydych wedi cyflwyno eich Datganiad eto, dylech wneud hyn ar unwaith er mwyn sicrhau bod eich gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio.
Mae cwblhau'r Datganiad yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Rheoliad 17). Bydd methu â chyflwyno'r Datganiad yn golygu na fyddwch yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn. Gall hyn effeithio ar eich gradd yn eich arolygiad nesaf.
Yn ogystal â hyn, byddwn yn cyhoeddi rhestr o'r gwasanaethau nad ydynt wedi cyflwyno Datganiad erbyn 9 Mawrth.
Y camau nesaf y dylech eu cymryd
Dim ond y Person Cofrestredig neu'r Unigolyn Cyfrifol a all gwblhau a chyflwyno'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth. Gallwch wneud hyn ar AGC ar-lein a rhaid i chi ei gyflwyno rhwng 24 Chwefror a 9 Mawrth 2020.
Oes eich bod eisoes wedi creu cyfrif, defnyddiwch yr un manylion y gwnaethoch eu defnyddio wrth greu eich cyfrif.
Unwaith y byddwch wedi'i gyflwyno, byddwch yn cael e-bost yn eich hysbysu gennym. Ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw newidiadau ar AGC ar-lein unwaith y byddwch wedi cyflwyno'r datganiad.
Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch cofrestriad – peidiwch â defnyddio'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn lle gwneud hyn.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth , mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostiwch AGC@llyw.cymru