Coronafeirws newydd
Cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru parthed y Coronafeirws Newydd.
Gallwch ddod o hyd i’r cyngor diweddaraf ar Iechyd Cyhoeddus Cymru
Er (ar 12 Chwefror 2020) nad oedd unrhyw achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu cyngor ar sut y gallwch amddiffyn eich hun ac eraill yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r wefan hefyd yn darparu dolenni defnyddiol ichi gael darllen cyngor pellach gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghyd â chwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml.
Mae’n bosib y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddod yn ôl atoch gyda chyngor mwy penodol i’r sector wrth i’r sefyllfa ddatblygu, ond yn y cyfamser byddem yn annog pob darparwr i ddarllen y cyngor swyddogol sydd ar gael ar y wefan hon a chymryd y camau diogelu priodol.