Gallwch nawr gyflwyno cofrestriadau ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae i ni drwy AGC Ar-lein!
Mae ein gwasanaeth ar-lein 'AGC Ar-lein' yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr ac unigolion gofrestru a gweithio gyda ni.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Pryd fydd darparwyr Gofal Plant a Chwarae newydd yn gallu gwneud ceisiadau ar-lein?
Mae'r ffurflen ar-lein bellach yn fyw a gallwch gael gafael arni drwy AGC Ar-lein.
Pryd y gallaf gyflwyno fy nghais?
all ymgeiswyr ddechrau cwblhau eu cais i gofrestru, ond ni fyddant yn gallu ei gyflwyno tan 20 Chwefror 2020.
A allaf gyflwyno ceisiadau papur o hyd?
allwn dderbyn ceisiadau papur hyd at 28 Chwefror. Os ydych eisoes wedi dechrau cwblhau cais papur, mae'n werth ystyried ailddechrau ar AGC Ar-lein
I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru a chyflwyno eich cais, ewch i'n tudalen gofrestru.