Terfyn amser ar gyfer cwblhau SASS wedi'i ymestyn tan 11 Chwefror
Mae'n ofynnol i bob darparwyr gofal plant a chwarae gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) ar-lein.
Diolch i bawb sydd eisoes wedi cwblhau a chyflwyno ei SASS gan ddefnyddio AGC Ar-lein.
Rydym wedi cael llawer o adborth defnyddiol wrth i ddarparwyr fynd drwy'r ffurflen SASS.
Ar sail yr adborth hwn a'r ffaith y gall cwblhau'r SASS olygu bod angen i rai darparwyr gyflwyno hysbysiadau ac amrywiadau (prosesau newydd i ddarparwyr eu cyflawni drwy AGC Ar-lein), rydym wedi penderfynu ymestyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau tan ddydd Mawrth 11 Chwefror.
Os bydd angen cymorth technegol arnoch i ddefnyddio AGC Ar-lein, ewch i'r dudalen SASS ar ein gwefan rhag ofn y bydd yr ateb i'ch cwestiwn yno. Fel arall, ffoniwch ni ar 0300 7900 126 gan ddewis opsiwn 4, neu e-bostiwch ciw@gov.wales.
Os oes gennych gwestiynau am sut i gwblhau'r SASS, am gwblhau hysbysiad neu amrywiad, cysylltwch â'r sefydliad perthnasol sy'n aelod (byddant yn dal i roi cymorth, hyd yn oes os nad ydych yn aelod):
- Clybiau Plant Cymru Kids Clubs 029 2074 1000 neu e-bostiwch info@clybiauplantcymru.org
- Blynyddoedd Cynnar Cymru 029 2045 1242 neu e-bostiwch info@earlyyears.wales
- Mudiad Meithrin 01970 639639 neu e-bostiwch post@meithrin.co.uk
- Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru) 01824 707823 neu e-bostiwch Wales@ndna.org.uk
- Chwarae Cymru 029 2048 6050 neu e-bostiwch mail@playwales.org.uk
- Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru) 029 2035 1407 neu e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk