Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o ofal i blant yng Nghymru

Ein hadolygiad o ansawdd y gofal a ddarperir i blant sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Nod yr adolygiad, a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf 2018 a mis Mawrth 2019, oedd gwerthuso ansawdd y gofal a ddarperir.

Beth y gwnaethom ei ystyried

  • Cynhaliodd pob darparwr cofrestredig hunanasesiad o'i wasanaeth;
  • Gwnaethom gynnal arolygiadau mewn 56 o gartrefi gofal cofrestredig ledled Cymru gan ganolbwyntio ar ansawdd canlyniadau i blant sydd â phrofiad o ofal;
  • Gwnaethom weithio gyda Voices from Care Cymru i hwyluso digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru â phlant sydd â phrofiad o ofal.

Ein canfyddiadau

  • Nodwyd gennym fod llawer o'r plant yn cael cymorth o ansawdd da yn y cartrefi roeddent yn byw ynddynt.
  • Roedd bron bob cartref yn darparu amgylchedd cynnes a chyfforddus i blant fyw ynddo a'i ystyried yn gartref.
  • Gwelwyd ymrwymiad cyffredinol i sicrhau bod plant yn cael profiadau cymdeithasol a hamdden cadarnhaol, gan wella eu sgiliau cymdeithasol, a oedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu llesiant emosiynol cyffredinol.

Argymhellion

  • Nodwyd gennym fod nifer cynyddol o blant mewn gofal yn mynd ar goll.  Gwnaethom argymell y dylid adolygu polisïau ac arfer er mwyn sicrhau na fydd plant mewn mwy o berygl diangen o gael eu niweidio, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.
  • Mae angen i ddarparwyr ac awdurdodau lleol sicrhau bod digon o leoliadau i ddiwallu anghenion plant a'u galluogi i fyw yn agos at eu cartrefi.
  • Dylid ystyried gofal preswyl fel dewis cadarnhaol i blant, yn hytrach na'r dewis sydd ar ôl pan fetho popeth arall.

Y camau nesaf

Rydym yn ymrwymedig i roi'r argymhellion yn yr adroddiad ar waith, a byddwn yn gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau gwelliannau yng nghanlyniadau'r plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.