16 a 25 Ebrill 2024 – digwyddiadau rhithwir i ddarparwyr
Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u hanelu at bob gwasanaethau gofal plant a chwarae.
Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad rhithwir trwy Microsoft Teams ym mis Ebrill lle bydd darparwyr yn cael cyfle i glywed gan ddarparwyr eraill sydd wedi cyflawni un radd ‘rhagorol’ neu fwy.
Caiff y dolenni ar gyfer y digwyddiadau ar-lein eu anfon yn uniongyrchol drwy e-bost at ddarparwyr yr wythnos yma. Nid oes angen mynychu pob digwyddiad – yr un sesiwn fydd yn cael ei rhedeg ar ddiwrnodau gwahanol.
Byddwn yn defnyddio cyfieithu ar y pryd ar gyfer y digwyddiadau hyn.
- Dydd Mawrth 16 Ebrill, 18:30-20:30
- Dydd Iau 25 Ebrill, 10:00-12:00 hanner dydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i agc.cyfathrebu@llyw.cymru.