Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sut rydym yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae

Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau gofal plant a chwarae.

Dylid darllen cyfeiriadau at 'Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru' (AGGCC) yn y dogfennau ar y dudalen hon fel 'Arolygiaeth Gofal Cymru'.

Yr hyn rydym yn ei archwilio ac adrodd amdano

Pan fydd ein harolygwyr yn ymweld â gwasanaeth gofal, byddant yn ystyried pedair thema graidd:

  • Lles
  • Gofal a Datblygiad
  • Amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Pa mor aml rydym yn arolygu

Mae gennym ddau fath o arolygiad: llawn ac â phwyslais penodol.

Arolygiadau llawn

Mae'r rhain yn arolygiadau rheolaidd, wedi eu trefnu ac yn rhan o'n hamserlen arolygu ni. Mae arolygiadau llawn yn cael eu cynnal tua chwe mis ar ôl i wasanaeth sydd newydd gael ei gofrestru ddechrau gweithredu. Ar ôl hynny, rydym yn arolygu fel a ganlyn:

  • Gwasanaethau gofal dydd llawn o leiaf unwaith bob dwy flynedd
  • Gwasanaethau gofal plant eraill – er enghraifft, gwarchodwyr plant, gofal dydd sesiynol, chwarae mynediad agored, crèches a gofal y tu allan i'r ysgol – o leiaf unwaith bob tair blynedd

Arolygiadau â phwyslais penodol

Fel arfer, mae'r rhain yn cael eu cynnal pan fydd pryderon yn cael eu lleisio, neu i wneud gwaith dilynol ynglŷn â meysydd i'w gwella a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol. Mae'n bosibl y bydd yr arolygiadau hyn yn ystyried rhai agweddau ar y gwasanaeth yn unig.

Mae ein holl arolygiadau bron yn ddirybudd – fodd bynnag, ar gyfer gwarchodwyr plant a chwarae mynediad agored, fel arfer rydym yn ffonio un wythnos cyn inni gynnal arolygiad arfaethedig. Mae hyn i wirio eich argaeledd ac oriau agor. Mae hyn yn golygu rydym yn osgoi colli ymweliadau.

Os ydym wedi ceisio cysylltu â chi ond methu â siarad â rhywun, yna bydd yr arolygiad yn cael ei gynnal heb drafodaeth flaenorol. Fodd bynnag, chi sy'n gyfrifol am ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'ch diwrnodau a/neu oriau gweithredu. Byddwn yn arolygu unrhyw wasanaeth ar unrhyw adeg, yn enwedig pan fydd pryderon wedi eu lleisio.

Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth

Bob blwyddyn, bydd yn ofynnol i ichi anfon y canlynol atom:

  • Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
  • Adolygiad o ansawdd gofal y gwasanaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.

Graddau arolygiadau gofal plant a chwarae

O fis Ebrill 2019, bydd pob un o'n hadolygiadau llawn o wasanaethau gofal plant a chwarae yn cynnwys gradd ar gyfer pob un o'r pedair thema a gaiff eu hystyried yn ystod yr arolygiad. Mae hyn yn golygu y caiff gradd Rhagorol; Da; Digonol; neu Wael ei chyhoeddi mewn perthynas â themâu Llesiant; Gofal a Datblygiad; Yr amgylchedd; ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Bydd gwasanaethau sydd newydd gofrestru yn cael arolygiad llawn tua chwe mis ar ôl dod yn weithredol. Caiff y graddau a ddyfarnwyd eu cyhoeddi.

Mae ein templed ar gyfer adroddiadau arolygu wedi cael ei adolygu er mwyn dangos y graddau ym mlaen yr adroddiad arolygu ac wrth ymyl pob thema. Ein bwriad yw cyhoeddi graddau ar ein cyfeiriadur ar-lein yn y dyfodol.

Cymorth i ddarparwyr

Rydym wedi paratoi canllaw arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd a chwarae. Rydym hefyd wedi paratoi dull i ddarparwyr chwarae mynediad agored asesu cymarebau staffio.

Arolygiadau ar y cyd ag Estyn

O fis Ionawr 2019, rydym wedi cynnal arolygiadau ar y cyd o'r gofal ac addysg mewn gwasanaethau wedi'u rheoleiddio nad ydynt yn ysgolion sy'n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.

Yn ystod yr arolygiadau ar y cyd hyn, rydym yn arolygu gofal pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliadau a gynhelir.

Bydd ein harolygiadau ar y cyd yn darparu:

  • Un adroddiad arolygu sy'n cwmpasu safonau mewn gofal plant ac addysg
  • Fframwaith arolygu diwygiedig sy'n cwmpasu llai o feysydd ond rhai ehangach
  • Amserlenni newydd ar gyfer hyd, amlder a chyfnodau rhybudd arolygiad

Gweler isod ein canllawiau arolygu cyhoeddedig, dogfen gywirdeb ffeithiol, a dogfen ddilynol ar gyfer yr arolygiadau ar y cyd.

Arolygiadau â Phwyslais Penodol

Lle rydym wedi cyflwyno hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio, byddwn fel arfer yn cynnal ail arolygiad, sy'n canolbwyntio'n benodol ar asesu'r camau a gymerwyd gan y darparwr i fynd i'r afael ag achos o ddiffyg cydymffurfio. Byddwn yn adolygu gradd pob gwasanaeth sy'n cael gradd 'gwael' a hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio. Ni fyddwn yn newid y graddau o dan unrhyw amgylchiadau eraill.

Ni fyddwch yn dyfarnu gradd yn ystod arolygiadau â phwyslais penodol yn dilyn pryder, a hynny am fod arolygiadau â phwyslais penodol fel arfer yn canolbwyntio ar feysydd ymarfer penodol iawn.

Pwysig – Darllennwch ein hadroddiadau yn llawn.

Rydym yn gyfrifol am reoleiddio mwy na 4,000 o wasanaethau gofal plant a chwarae. Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i sicrhau bod graddau pob un o'r gwasanaethau yn cael eu cyhoeddi yn eu hadroddiadau arolygu. P'un a yw'r adroddiad yn cynnwys graddau ai peidio, rydym bob amser yn eich argymell i'w ddarllen yn llawn.