Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Mae ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn rhoi llais i bobl yn y ffordd yr ydym yn gweithio.

Sut mae’r Bwrdd yn ein helpu

Mae’r Bwrdd yn ein helpu ni drwy roi cyngor ac argymhellion ar sut y gellir gwella gofal a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer pobl, trwy well rheoleiddio, arolygu ac adolygu.

Mae hefyd:

  • yn darparu gwybodaeth arbenigol a mewnwelediad ynghylch gofal a gwasanaethau cymdeithasol
  • cynrychioli 'llais' ar gyfer barn teuluoedd a pherthnasau, gofalwyr, a bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ond hefyd safbwyntiau holl bobl mewn gofal a gwasanaethau cymdeithasol
  • yn rhoi trosolwg ‘beirniadol’ ar ein gwaith i sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl
  • yn rhoi cyfraniad cadarnhaol trwy awgrymu atebion i ganfyddiadau ein gwaith a’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau gofal a chymdeithasol
  • yn rhoi cydlyniad a sicrhau gwaith cydgysylltiedig gan yr holl ‘bartneriaid’ sy’n berthnasol i’n gwaith
  • yn dylanwadu ar ein cynllun gwaith i’r dyfodol ar sail ein canfyddiadau ein hunain a’n perfformiad rhanbarthol

Pa mor aml y mae’r Bwrdd yn cyfarfod?

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru.