Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhyngom ni a'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted)
Sut y byddwn yn cydweithio â'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau er mwyn osgoi achosion o ddyblygu neu ddryswch ac er mwyn diogelu buddiannau a hawliau plant ac oedolion sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a/neu a gaiff eu harolygu gan un o'r arolygiaethau neu'r ddwy ohonynt.
Mae'r papur hwn yn nodi sut y bydd yr arolygiaethau yn cydweithio i wneud y canlynol:
- osgoi achosion o ddyblygu neu ddryswch
- diogelu buddiannau a hawliau plant ac oedolion sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a/neu a gaiff eu harolygu gan un o'r arolygiaethau neu'r ddwy ohonynt.
- helpu darparwyr y gwasanaethau hynny i fod yn glir o ran eu hatebolrwydd.
- helpu ein staff i wybod pryd a sut i gydlynu ein gwaith.
Mae'r papur hwn hefyd yn nodi:
- priod gyfrifoldebau Ofsted ac AGC ar gyfer sicrhau gwelliannau yn ogystal â defnyddio dulliau rheoleiddio a gorfodi effeithiol yn y sector gofal cymdeithasol.
- yr egwyddorion a fydd yn gymwys pan fydd gwasanaethau rheoleiddiedig yn cael eu darparu gan yr un darparwr yn y ddwy awdurdodaeth.
Lawrlwytho dogfennau
- File size:280 KB