Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Mary Wimbury

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Mary Wimbury ydw i, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, sy'n dod â thros 400 o ddarparwyr gofal yng Nghymru ynghyd.

Mary Wimbury

Beth ydw i'n ei wneud?

Rwy'n gweithio i rannu arferion da ymhlith darparwyr gofal ac i sicrhau bod gwneuthurwyr polisi, comisiynwyr gofal a rheoleiddwyr yn deall safbwynt darparwyr a'r effaith arnynt wrth wneud penderfyniadau, er mwyn eu galluogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Rwyf wedi gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ers dros ddegawd. Mae gen i brofiad hefyd fel gofalwr teulu a chefnogi aelodau o'r teulu sy'n cael gofal cofrestredig.

Beth sy'n bwysig i fi

Sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r broses yn cydweithio i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir cystal â phosibl.