Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein harolygiadau

Staff gyda phlant mewn meithrinfa

Byddwn yn arolygu gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gyda ni er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu gofal diogel.

Rydym yn datblygu fframweithiau arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau gofal cartref a mabwysiadu. Ar gyfer y gwasanaethau hyn, defnyddiwch y canllawiau arolygu cyfredol.

Pwy sy’n cael eu harolygu gennym

Gwasanaethau cartrefi gofal – gan gynnwys y rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i blant neu oedolion

Gwasanaethau cymorth yn y cartref – gwasanaeth a all ddarparu gofal yn eich cartref eich hun, yn ogystal â chymorth cyffredinol

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

Gwasanaethau llety diogel

Gwasanaethau lleoli oedolion

Gwasanaethau maethu

Gwasanaethau mabwysiadu

Gwasanaethau eirioli

Gwarchodwyr plant

Gofal dydd llawn

Gofal y tu allan i'r ysgol

Gwasanaethau gofal dydd i blant o dan 12 oed

Ysgolion preswyl

Ysgolion arbennig preswyl

Colegau addysg bellach sy'n lletya myfyrwyr o dan 18 oed

Sut rydym yn arolygu

Cod ymarfer

Rydym wedi datblygu Codau Ymarfer ar wahân sy'n disgrifio ein dull o arolygu gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Mesur Plant a Theuluoedd 2010. Rydym hefyd wedi datblygu Cod Ymarfer sy'n disgrifio ein dull o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad ac arolygu. Mae'r Codau Ymarfer hyn hefyd yn nodi'r egwyddorion sy'n llywio ein gwaith arolygu.

Fframweithiau arolygu

Er mwyn cefnogi dull cyson o fynd i'r afael â'r broses arolygu, rydym wedi datblygu fframweithiau arolygu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yr ydym yn eu defnyddio yn ein gweithgarwch arolygu.

Yn ystod yr arolygiad

Bydd ein harolygwyr yn defnyddio gwahanol ddulliau i archwilio’r gwasanaeth a ddarperir. Gall y dulliau hynny gynnwys y canlynol:

• Siarad â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a gwrando arnynt
• Arsylwi’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan ddefnyddio’r Fframwaith Arsylwi Cryno ar gyfer Arolygu
• Siarad â pherthnasau’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth a gwrando arnynt
• Siarad ag aelodau o staff a gwrando arnynt
• Siarad â’r rheolwr a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld â’r gwasanaeth a gwrando arnynt
• Darllen polisïau a chofnodion perthnasol
• Dosbarthu holiaduron i bobl, gweithwyr proffesiynol a pherthnasau lle bo hynny’n briodol
• Archwilio ac adrodd os darperir gwasanaeth yn Gymraeg heb fod rhywun yn gorfod gofyn amdano. Adwaenir hyn fel y 'Cynnig gweithredol'

Ar ôl yr arolygiad

• Mae'n bosibl y bydd yr arolygydd yn trafod ei ganfyddiadau â'r darparwr yn ystod neu ar ddiwedd yr arolygiad
• Bydd yr arolygydd yn gadael holiadur adborth ôl-arolygiad gyda'r darparwr ar ddiwrnod yr arolygiad
• Bydd yr arolygydd yn ysgrifennu canfyddiadau o'i ymweliad mewn adroddiad arolygu. Caiff yr adroddiad ei anfon at y darparwr o fewn 25 diwrnod gwaith i ddyddiad yr arolygiad
• B• Bydd gan y person cofrestredig sy'n darparu'r gwasanaeth hyd at 10 diwrnod gwaith i wneud sylwadau ar gywirdeb ffeithiol yr adroddiad. Mae'n bosibl y gwneir diwygiadau yn sgil y sylwadau a gawn
• Wedyn mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ar ein cyfeiriadur (ac eithrio cartrefi plant)