Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Dewis gwasanaeth gofal

Gofalwr ifanc a merch yn gwenu yn y gegin

Gwybodaeth ac awgrymiadau gan ein harolygwyr i’ch helpu pan fyddwch yn dewis gwasanaeth gofal.

Rydym yn arolygu’r holl wasanaethau sy’n cofrestru gyda ni, ac yn cyhoeddi adroddiadau arolygu a allai eich helpu i wneud penderfyniad.

Yn yr adran hon gallwch ddarllen awgrymiadau gan ein harolygwyr ynglŷn â’r hyn i chwilio amdano pan fyddwch yn dewis gwasanaeth gofal i oedolion neu blant.

Ble y gallwch gael cymorth

Mae nifer o sefydliadau ar gael a all eich helpu drwy roi gwybodaeth a chymorth ychwanegol i chi.

Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i holl rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc rhwng 0 ac 20 mlwydd oed ac i’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru(Dolen allanol) i gael rhestr lawn o holl fanylion cyswllt y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth am ddewis gofal plant a chymorth i rieni a chymorth ariannol gyda chostau gofal plant. (Dolen allanol)  Gallwch ofyn am gopi caled oddi wrth eich GGD agosaf.

CartrefiGofal.Cymru

Gan dynnu ar wybodaeth a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a chan ddarparwyr cartrefi gofal yn uniongyrchol, mae gwefan CartrefiGofal.Cymru yn cynnwys gwybodaeth am bob cartref gofal i oedolion yng Nghymru.

O leiaf, ar gyfer pob cartref gofal fe welwch wybodaeth am y math o ofal a ddarperir, ei leoliad a'i fanylion cyswllt, ynghyd â gwybodaeth am ei gofrestriad a dolenni i'r adroddiad arolygu diweddaraf. Yn bwysig, byddwch yn gallu gweld a oes gan y cartref unrhyw lleoedd gwag – caiff y wybodaeth hon ei diweddaru'n rheolaidd gan y cartrefi.