Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Defnyddiwch declyn Arolygiaeth Gofal Cymru

Widget Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae ein widget yn caniatáu i ddarparwyr gofal sydd wedi'u cofrestru gennym ddangos gwybodaeth gryno ar eu gwefan.

Pwy all ddefnyddio ein widget?

Gall pawb sydd wedi'u cofrestru gyda ni ac yn cael eu rheoleiddio gennym ddefnyddio ein widget.

Sut gallaf roi'r widget ar ein gwefan?

Bydd eich datblygwr gwefannau neu'r person sy'n gyfrifol am eich gwefan yn gallu eich helpu i roi'r widget ar eich gwefan.

  1. Rhowch enw'r gwasanaeth gofal a fydd yn defnyddio'r widget ar y ffurflen isod a dewiswch y gwasanaeth o'r gwymplen
  2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost ar y ffurflen
  3. Copïwch y cod
  4. Gludwch y cod i god HTML eich gwefan. Bydd y person sy'n gyfrifol am eich gwefan yn gallu gwneud hyn

Sut gallaf dynnu'r widget o'n gwefan ni?

Mae mor syml â thynnu'r cod oddi ar eich gwefan. Eto, bydd y person sy'n gyfrifol am eich gwefan yn gallu gwneud hyn.

Beth gallaf ei wneud os wy'n cael problem wrth ddefnyddio'r widget?

Os ydych yn cael problem wrth ddefnyddio ein widget, e-bostiwch ein tîm cyfathrebu ac ymgysylltu.

 

Trwy gyflwyno’r ffurflen hon rydych yn cytuno â’n Polisi Preifatrwydd lle y gallwch ddarllen am y ffordd rydym yn ymdrin â’ch data a’ch gwybodaeth.

CAPTCHA

Y telerau a'r amodau ar gyfer defnyddio'r widget

Mae ein widget wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwefan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae defnydd y widget dod o dan Dermau ac Amodau a Datganiad Preifatrwydd ein gwefan.

Beth cewch chi ei wneud

  • Cewch chi ddefnyddio ein widget i ddangos gwybodaeth gryno ynglŷn â gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio os ydych wedi'ch cofrestru gyda ni

Beth na chewch chi ei wneud

  • Ni chewch chi ei ddefnyddio mewn ffordd a fydd yn camarwain pobl o fwriad
  • Ni chewch chi ei addasu mewn unrhyw ffordd
  • Ni chewch chi ei ddefnyddio mewn ffordd a fydd yn achosi niwed bwriadol i Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Ni chewch chi ei werthu neu ei roi ar is-drwydded
  • Ni chewch chi roi unrhyw beth o gwmpas y widget a fydd yn rhoi'r argraff bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn eich ardystio chi neu'ch gwasanaeth

Ymwrthodiad gwarantau

Cyfyngiad o atebolrwydd

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwrthod ag unrhyw atebolrwydd am ddifrod o ganlyniad i'ch defnydd chi o'r widget.

Rydych chi’n deall ac yn cytuno eich bod yn defnyddio'r widget, neu’n cael mynediad ato, yn ôl eich disgresiwn a'ch risg eich hun, ac mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol neu golli data o ganlyniad i ddefnyddio'r widget neu gael mynediad ato.