Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut i wneud cais i ailgofrestru gyda ni.
O Ebrill 2018, newidiodd y gyfraith fel rhan o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol). Mae hyn yn golygu y bydd angen i rai gwasanaethau gofal ailgofrestru eu gwasanaeth gyda ni.
Pa wasanaethau y mae angen iddynt ailgofrestru?
- Gwasanaethau Mabwysiadu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Lleoli Oedolion
- Gwasanaethau Eirioli
Mae'n RHAID i unrhyw ddarparwr sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yng Nghymru, ni waeth ble mae ei swyddfa wedi'i lleoli, gofrestru â ni
Bydd angen i'r gwasanaethau hyn hefyd ddynodi unigolion cyfrifol.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais i ailgofrestru gan ddefnyddio AGC Ar-lein. (Dolen allanol)
O fis Ebrill 2018, byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich cais, a byddwn yn cysylltu â chi ar ôl y dyddiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â phryd y gallwch wneud cais i ailgofrestru, ewch i’n tudalen brosesu.
Cyn ichi ymgeisio
Cyn ymgeisio ar-lein, dylech wneud y canlynol:
- Darllen Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol)
- Darllen ein canllawiau ynglŷn ag ailgofrestru
- Dod o hyd i fersiwn electronig o’r datganiad o ddiben cyfredol ar gyfer pob gwasanaeth a'i hadolygu (bydd yn ofynnol i chi lanlwytho hon gyda’ch cais)
Mae’n rhaid bod gan bob unigolyn cyfrifol ac ymgeisydd unigol dystysgrif ddilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a’ch manylion gwasanaeth wedi’u diweddaru pan fo’n berthnasol.
Yn ystod y broses ar-lein, mae’n rhaid i bob unigolyn cyfrifol gwblhau holiadur ar ei allu i gydymffurfio â’r dyletswyddau a nodir yn y rheoliadau (bydd yn ofynnol i chi lanlwytho hwn gyda’r adran o’r ffurflen gais).
Ymgeisiwch nawr
Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais i ailgofrestru gan ddefnyddio AGC Ar-lein. (Dolen allanol)
Os oes gennych gyfrif AGC Ar-lein eisoes
Bydd gennych gyfrif eisoes os ydych wedi cwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth drwy ddefnyddio AGC Ar-lein. Gallwch ddefnyddio’r cyfrif hwn i gyflwyno eich cais.
Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein
Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd angen i chi greu cyfrif drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin ar AGC Ar-lein.
- File size:836 KB
- File size:720 KB
- File size:249 KB