Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cymeradwyo Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021

Nani gyda phlant

Rydym bellach yn gallu derbyn ceisiadau am y Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021.

Yn 2007, sefydlodd Llywodraeth Cymru y 'Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref', y cyfeirir ato weithiau fel y "Cynllun Nanis" fel cynllun gwirfoddol, a weinyddir gennym ar ran Llywodraeth Cymru. Ymhlith pethau eraill, roedd bod yn rhan o'r cynllun yn galluogi rhieni sy'n defnyddio nani gymeradwy i gael cymorth ariannol drwy amrywiaeth o gonsesiynau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, megis Credydau Treth, Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth, lle maent yn gymwys.

O 1 Ebrill 2021, byddwn yn prosesu ceisiadau i gymeradwyo ac adnewyddu cymeradwyaeth o dan ddeddfwriaeth newydd, Cymeradwyo Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021.

Mae'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo darparwr gofal plant yn y cartref (nani) o dan y cynllun hwn yn nodi bod yn rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r canlynol:

  • Bod dros 18 oed
  • Meddu ar gymhwyster ar Restr Gofal Cymdeithasol Cymru o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn Sector y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig
  • Meddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Meddu ar wiriad manwl cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Heb ei wahardd rhag gweithio gyda phlant na'i ystyried yn anaddas i weithio gyda phlant.

Cost cymeradwyo'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yw £55. Os bydd angen tystysgrif DBS ar ymgeiswyr hefyd, gellir gwneud cais am hyn drwy Vibrant Nation am gost o £54.40.

Os ydych eisoes yn nani gymeradwy, nid oes angen i chi fodloni gofynion deddfwriaeth 2021 hyd nes y byddwch yn penderfynu adnewyddu eich cymeradwyaeth.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin a'r Canllawiau ar Gymeradwyaeth yn rhoi rhagor o arweiniad o ran pa gamau i'w cymryd nesaf.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach, gallwch anfon e-bost i AGC@llyw.cymru