Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â'r hyn i'w wneud os bydd angen cymorth arnoch gyda'r cais i gofrestru.
Cymorth wrth gwblhau eich cais i gofrestru ar-lein
Rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl y cewch anhawster wrth gael mynediad at AGC Ar-lein.
Rydym yn awgrymu’r dewisiadau amgen canlynol:
- Mae llyfrgelloedd lleol yn aml yn cynnig mynediad dibynadwy at y rhyngrwyd
- Gallwn wneud trefniadau i chi ymweld ag un o'n swyddfeydd a chwblhau eich cais ar-lein gyda chymorth digidol. Os, ar ôl archwilio’r opsiynau hyn, ydych yn cael unrhyw anawsterau’n cael mynediad at eich ffurflen gais ar-lein, cysylltwch â ni.
Cymorth gyda'ch cyfrif AGC Ar-lein
Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein
Os nad oes gennych gyfrif CIW Ar-lein, bydd angen i chi greu cyfrif drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin ar AGC Ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
- Darllenwch ein canllawiau i ddarparwyr
- Sicrhewch fod gennych fersiwn electronig o’r datganiad o ddiben cyfredol ar gyfer pob gwasanaeth
- Gwnewch nodyn o'r rhif SIN ar gyfer pob gwasanaeth rydych yn gwneud cais i'w gofrestru – bydd angen y rhif arnoch er mwyn cwblhau eich ffurflen
Os oes gan yr unigolyn cyfrifol dynodedig ar gyfer unrhyw un o'ch gwasanaethau gyfrif defnyddiwr ar-lein gyda ni, sicrhewch eich bod yn casglu'r manylion hynny – bydd angen nhw arnoch wrth gwblhau'r wybodaeth am yr unigolyn cyfrifol.
Os oes gennych gyfrif CIW Ar-lein eisoes?
Bydd gennych gyfrif eisoes os ydych wedi cwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth drwy ddefnyddio AGC Ar-lein (Dolen allanol). Gallwch ddefnyddio’r cyfrif hwn i gyflwyno eich cais.
Awgrymiadau ynghylch mewngofnodi i AGC Ar-lein
- Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr – Dylech fewngofnodi i AGC Ar-lein (Dolen allanol) gan ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost (enw defnyddiwr) a ddefnyddiwyd gennych wrth greu eich cyfrif. Os gwnaethoch gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth bydd gennych gyfrif AGC Ar-lein eisoes
- Wedi anghofio eich cyfrinair? - Os nad ydych yn gallu cofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin
Os cewch unrhyw broblemau technegol wrth gael mynediad at eich cyfrif, ffoniwch ni ar 0300 7900 126. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom ar ciw@gov.wales.
Cwestiynau cyffredin
Cwestiynau ynglŷn â'r cais i gofrestru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cais i gofrestru, lawrlwythwch ein dogfen cwestiynau cyffredin isod, neu fel arall, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.
Cwestiynau ynglŷn â chael mynediad at eich cyfrif AGC Ar-lein
Os cewch unrhyw broblemau technegol wrth gael mynediad at eich cyfrif, ffoniwch ni ar 0300 7900 126. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom ar ciw@gov.wales.
- File size:521 KB