Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth

I ddarparu gofal personol neu ofal plant yng Nghymru, efallai y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda ni.

Mae ein rôl fel rheoleiddiwr annibynnol yn golygu mai ni sy'n penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaeth gofal. I ddarparu gwasanaeth yng Nghymru, rhaid i chi wneud cais a chwblhau'n llwyddiannus ein proses gofrestru ar-lein.

Pwy sydd angen cofrestru?

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am ddarparu'r gwasanaethau canlynol yng Nghymru gofrestru gyda ni. Gallwch gofrestru naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad.

  • Gwasanaeth cartrefi gofal – gan gynnwys y rheini sy'n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i blant neu oedolion
  • Gwasanaeth cymorth cartref – gwasanaeth a all ddarparu gofal yn eich cartref eich hun, yn ogystal â chymorth cyffredinol
  • Gwasanaeth llety diogel
  • Gwasanaeth lleoli oedolion
  • Asiantaeth faethu annibynnol
  • Asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau mabwysiadu
  • Gwasanaethau eirioli
  • Gwarchodwyr plant
  • Gofal dydd plant
    • Gofal dydd llawn
    • Gofal dydd sesiynol
    • Meithrinfa
    • Gofal y tu allan i'r ysgol
    • Darpariaeth chwarae mynediad agored

Rydym hefyd yn arolygu ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl, a cholegau addysg bellach sy'n rhoi llety i fyfyrwyr sy'n iau na 18 oed, ond nid ydym yn eu cofrestru.

Sut i gofrestru

Os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu gwasanaeth gwarchod plant neu wasanaeth gofal dydd a chwarae, edrychwch ar y dudalen isod am ragor o ganllawiau ar gofrestru.

Os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu unrhyw rai o'r canlynol:

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau mabwysiadu
  • Gwasanaethau maethu
  • Gwasanaethau lleoli oedolion
  • Gwasanaethau eirioli

Mae angen i chi wneud cais i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018. Edrychwch ar y dudalen isod am ragor o ganllawiau ar gofrestru:

Cyn i chi wneud cais

Mae'n rhaid i chi:

  • Ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, canllawiau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol perthnasol
  • Darllen ein canllawiau cofrestru
  • Paratoi eich datganiad o ddiben
  • Sicrhau bod gennych bolisïau a gweithdrefnau perthnasol
  • Sicrhau bod gennych gymwysterau perthnasol

Amserlenni ar gyfer prosesu ceisiadau a gyflwynwyd

  • Ceisiadau cychwynnol – 14 wythnos (gall gymryd yn hirach os oes angen rhagor o wybodaeth neu os na ddychwelir gwybodaeth ychwanegol ofynnol mewn pryd)
  • Unigolyn cyfrifol – 12 wythnos
  • Cais i amrywio amodau cofrestriad presennol – 5 wythnos

Caiff yr amserlenni hyn eu hadolygu o dan Ddeddf 2016.

Ceisiadau nad ydynt yn cael eu prosesu o fewn ein hamserlen

O dan Reoliadau Darparu Gwasanaethau 2009 (Dolen allanol), ystyrir bod ceisiadau ar gyfer cofrestriad i ddarparu gwasanaeth sy'n dod o dan y rheoliadau wedi cael eu cymeradwyo os nad ydynt yn cael eu prosesu o fewn cyfnod rhesymol. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n caniatáu rhoi trefniadau gwahanol ar waith os yw'r rhain wedi eu cyfiawnhau gan resymau tra phwysig yn ymwneud â budd y cyhoedd, gan gynnwys budd cyfreithlon trydydd partïon megis:

  • Pobl sy'n defnyddio, neu a allai defnyddio, gwasanaethau a reoleiddir a'u perthnasau
  • Awdurdodau lleol ac eraill a allai gomisiynu, neu brynu gwasanaethau o'r fath

Rydym wedi rhoi trefniadau gwahanol ar waith ar gyfer ymdrin â cheisiadau os oes unrhyw oedi o ran prosesu ceisiadau y tu hwnt i'r amserlen y cytunwyd arni. Mae hyn yn golygu NA FYDD unrhyw gais i gofrestru darparwr neu Unigolyn Cyfrifol/Unigolyn o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 neu Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, nac unrhyw gais gan berson cofrestredig i amrywio neu ddiddymu amodau cofrestriad yn cael eu hystyried fel rhai sydd wedi cael eu cymeradwyo, ar ôl i unrhyw gyfnod penodol (neu estynedig) ddod i ben.

Byddwn ond yn cymeradwyo ceisiadau o'r fath pan rydym yn fodlon bod holl faterion y cais yn bodloni'r rhannau perthnasol o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac unrhyw is-ddeddfwriaeth gysylltiedig

Ni fyddai cymeradwyo ceisiadau o'r fath dim ond oherwydd bod y dyddiad cau wedi mynd heibio er budd y cyhoedd. Er budd y cyhoedd dylai'r rhai sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl sy'n agored i niwed, neu sydd am eu darparu, fod yn ddarostyngedig i'r holl waith craffu, gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol a phriodol, gan gynnwys gwiriadau i’r cyfleusterau a ddarperir. Er budd cyfreithlon trydydd partïon dylem gyflawni'r holl ymchwiliadau angenrheidiol a rhoi ystyriaeth lawn i'r holl wybodaeth sy'n codi mewn ymholiadau o'r fath cyn penderfynu ar unrhyw gais i gofrestru neu amrywio neu dynnu amodau cofrestriad.

Ymgeisio i amrywio amodau cofrestriad

Os ydych am wneud newidiadau i amodau eich cofrestriad, mae'n rhaid i chi wneud cais i amrywio amodau eich cofrestriad. Gall hyn gymryd tua phum wythnos. Gallwch wneud hyn dim ond pan fydd eich cais i gofrestru wedi'i gymeradwyo. 

Caiff yr amserlenni hyn eu hadolygu o dan Ddeddf 2016.

Os oes gennych gŵyn

Os ydych yn teimlo y bu oedi afresymol o ran prosesu eich cais, neu'n teimlo nad ydym wedi dilyn ein proses gofrestru, gallwch godi'r mater hwn gyda ni drwy ein proses gwyno.