Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Sir Fynwy

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), gan ystyried pa mor dda y mae Cyngor Sir Fynwy yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – mae gan yr awdurdod lleol ddull gweithredu cydweithredol sy'n seiliedig ar ganlyniadau lle mae pobl yn cymryd rhan weithredol yn eu sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig' a phenderfyniadau dilynol.

Pobl - llais a dewis – gwnaethom nodi asesiadau sy'n seiliedig ar gryfhau o ansawdd da, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn adlewyrchu dewisiadau a dymuniadau'r bobl. Cânt eu defnyddio mewn ffordd gymesur ac amserol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau. 

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – mae'r awdurdod lleol wedi datblygu a chynnal dull integreiddio arbennig o dda, gyda gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo a chynnal annibyniaeth y bobl.

Atal ac ymyrraeth gynnar – mae Cyngor Sir Fynwy wedi datblygu amrywiaeth o ffyrdd arloesol a chreadigol o weithio gyda phobl i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain i atal neu oedi eu hangen am ofal a chymorth statudol. Mae'r adnoddau a fuddsoddir mewn amrywiaeth helaeth o wasanaethau yn y gymuned yn cefnogi ymyrraeth gynnar a chanlyniadau da i'r bobl. 

Meysydd i'w gwella 

Llesiant – gwella'r broses o gofnodi sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig' er mwyn sicrhau canlyniadau personol penodol eu hadlewyrchu'n fanylach ac y gweithredir arnynt o ganlyniad i hyn. 

Pobl - llais a dewis – mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau y caiff llais y bobl, neu lais eu heiriolwr neu gcynrychiolydd, ei glywed bob amser ac y caiff ei gynrychioli'n effeithiol yn ystod prosesau diogelu. 

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – byddai gwaith y timau integredig ac agweddau eraill ar weithio mewn partneriaeth yn elwa ar gael eu hategu gan fframwaith o brotocolau y cytunwyd arnynt neu ffyrdd eraill o gefnogi'r dull gweithredu hwn. 

Atal ac ymyrraeth gynnar – dylai'r awdurdod lleol roi dull sicrhau ansawdd effeithiol ar waith sy'n ei alluogi i adolygu effeithiolrwydd ei ymyriadau a llywio'r broses o'u gwella. 

Camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Fynwy. Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.